2 A llaw Midian a orthrechodd Israel: a rhag y Midianiaid meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau sydd yn y mynyddoedd, a'r ogofeydd, a'r amddiffynfaoedd.
3 A phan heuasai Israel, yna Midian a ddaeth i fyny, ac Amalec, a meibion y dwyrain; hwy a ddaethant i fyny yn eu herbyn hwy:
4 Ac a wersyllasant yn eu herbyn hwynt, ac a ddinistriasant gnwd y ddaear, hyd oni ddelych i Gasa; ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel, na dafad, nac eidion, nac asyn.
5 Canys hwy a ddaethant i fyny â'u hanifeiliaid, ac â'u pebyll, a daethant fel locustiaid o amldra; ac nid oedd rifedi arnynt hwy, nac ar eu camelod: a hwy a ddaethant i'r wlad i'w distrywio hi.
6 Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Midianiaid: a meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd.
7 A phan lefodd meibion Israel ar yr Arglwydd oblegid y Midianiaid,
8 Yr Arglwydd a anfonodd broffwydwr at feibion Israel, yr hwn a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Myfi a'ch dygais chwi i fyny o'r Aifft, ac a'ch arweiniais chwi o dŷ y caethiwed;