24 Yna Gedeon a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd, ac a'i galwodd Jehofah-shalom: hyd y dydd hwn y mae hi eto yn Offra eiddo yr Abiesriaid.
25 A'r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Cymer y bustach sydd eiddo dy dad, sef yr ail fustach saith mlwydd oed; a bwrw i lawr allor Baal yr hon sydd eiddo dy dad, a thor i lawr y llwyn sydd yn ei hymyl hi:
26 Ac adeilada allor i'r Arglwydd dy Dduw ar ben y graig hon, yn y lle trefnus; a chymer yr ail fustach, ac offryma boethoffrwm â choed y llwyn, yr hwn a dorri di.
27 Yna Gedeon a gymerodd ddengwr o'i weision, ac a wnaeth fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho: ac oherwydd ei fod yn ofni teulu ei dad, a gwŷr y ddinas, fel nas gallai wneuthur hyn liw dydd, efe a'i gwnaeth liw nos.
28 A phan gyfododd gwŷr y ddinas y bore, yna wele allor Baal wedi ei bwrw i lawr, a'r llwyn yr hwn oedd yn ei hymyl wedi ei dorri, a'r ail fustach wedi ei offrymu ar yr allor a adeiladasid.
29 A dywedodd pawb wrth ei gilydd, Pwy a wnaeth y peth hyn? Ac wedi iddynt ymofyn a chwilio, y dywedasant, Gedeon mab Joas a wnaeth y peth hyn.
30 Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Joas, Dwg allan dy fab, fel y byddo marw: am iddo fwrw i lawr allor Baal, ac am iddo dorri'r llwyn oedd yn ei hymyl hi.