30 Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Joas, Dwg allan dy fab, fel y byddo marw: am iddo fwrw i lawr allor Baal, ac am iddo dorri'r llwyn oedd yn ei hymyl hi.
31 A Joas a ddywedodd wrth y rhai oll a oeddynt yn sefyll yn ei erbyn ef, A ddadleuwch chwi dros Baal? ai chwi a'i ceidw ef? yr hwn a ddadleuo drosto ef, bydded farw y bore hwn: os Duw yw efe, dadleued drosto ei hun, am fwrw ei allor ef i lawr.
32 Ac efe a'i galwodd ef y dwthwn hwnnw Jerwbbaal; gan ddywedyd, Dadleued Baal drosto ei hun, am fwrw ei allor i lawr.
33 Yna y Midianiaid oll, a'r Amaleciaid, a meibion y dwyrain, a gasglwyd ynghyd, ac a aethant drosodd, ac a wersyllasant yn nyffryn Jesreel.
34 Ond ysbryd yr Arglwydd a ddaeth ar Gedeon; ac efe a utganodd mewn utgorn, ac Abieser a aeth ar ei ôl ef.
35 Ac efe a anfonodd genhadau trwy holl Manasse, yr hwn hefyd a'i canlynodd ef: anfonodd hefyd genhadau i Aser, ac i Sabulon, ac i Nafftali; a hwy a ddaethant i fyny i'w cyfarfod hwynt.
36 A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw, O gwaredi di Israel trwy fy llaw i, megis y lleferaist;