32 Ac efe a'i galwodd ef y dwthwn hwnnw Jerwbbaal; gan ddywedyd, Dadleued Baal drosto ei hun, am fwrw ei allor i lawr.
33 Yna y Midianiaid oll, a'r Amaleciaid, a meibion y dwyrain, a gasglwyd ynghyd, ac a aethant drosodd, ac a wersyllasant yn nyffryn Jesreel.
34 Ond ysbryd yr Arglwydd a ddaeth ar Gedeon; ac efe a utganodd mewn utgorn, ac Abieser a aeth ar ei ôl ef.
35 Ac efe a anfonodd genhadau trwy holl Manasse, yr hwn hefyd a'i canlynodd ef: anfonodd hefyd genhadau i Aser, ac i Sabulon, ac i Nafftali; a hwy a ddaethant i fyny i'w cyfarfod hwynt.
36 A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw, O gwaredi di Israel trwy fy llaw i, megis y lleferaist;
37 Wele fi yn gosod cnu o wlân yn y llawr dyrnu: os gwlith a fydd ar y cnu yn unig, a sychder ar yr holl ddaear; yna y caf wybod y gwaredi di Israel trwy fy llaw i, fel y lleferaist.
38 Ac felly y bu: canys cyfododd yn fore drannoeth, ac a sypiodd y cnu ynghyd, ac a wasgodd wlith o'r cnu, lonaid ffiol o ddwfr.