5 Canys hwy a ddaethant i fyny â'u hanifeiliaid, ac â'u pebyll, a daethant fel locustiaid o amldra; ac nid oedd rifedi arnynt hwy, nac ar eu camelod: a hwy a ddaethant i'r wlad i'w distrywio hi.
6 Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Midianiaid: a meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd.
7 A phan lefodd meibion Israel ar yr Arglwydd oblegid y Midianiaid,
8 Yr Arglwydd a anfonodd broffwydwr at feibion Israel, yr hwn a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Myfi a'ch dygais chwi i fyny o'r Aifft, ac a'ch arweiniais chwi o dŷ y caethiwed;
9 Ac a'ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law eich holl orthrymwyr; gyrrais hwynt allan o'ch blaen chwi, a rhoddais eu tir hwynt i chwi:
10 A dywedais wrthych, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi; nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond ni wrandawsoch ar fy llais i.
11 Ac angel yr Arglwydd a ddaeth, ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Offra, yr hon oedd eiddo Joas yr Abiesriad: a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwinwryf, i'w guddio rhag y Midianiaid.