8 Yr Arglwydd a anfonodd broffwydwr at feibion Israel, yr hwn a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Myfi a'ch dygais chwi i fyny o'r Aifft, ac a'ch arweiniais chwi o dŷ y caethiwed;
9 Ac a'ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law eich holl orthrymwyr; gyrrais hwynt allan o'ch blaen chwi, a rhoddais eu tir hwynt i chwi:
10 A dywedais wrthych, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi; nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond ni wrandawsoch ar fy llais i.
11 Ac angel yr Arglwydd a ddaeth, ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Offra, yr hon oedd eiddo Joas yr Abiesriad: a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwinwryf, i'w guddio rhag y Midianiaid.
12 Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Yr Arglwydd sydd gyda thi, ŵr cadarn nerthol.
13 A Gedeon a ddywedodd wrtho, O fy arglwydd, od yw yr Arglwydd gyda ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, Oni ddug yr Arglwydd ni i fyny o'r Aifft? Ond yn awr yr Arglwydd a'n gwrthododd ni, ac a'n rhoddodd i law y Midianiaid.
14 A'r Arglwydd a edrychodd arno ef, ac a ddywedodd, Dos yn dy rymustra yma; a thi a waredi Israel o law y Midianiaid: oni anfonais i dydi?