1 Yna Jerwbbaal, hwnnw yw Gedeon, a gyfododd yn fore, a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a wersyllasant wrth ffynnon Harod: a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt, wrth fryn More, yn y dyffryn.
2 A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Rhy luosog yw y bobl sydd gyda thi, i mi i roddi y Midianiaid yn eu dwylo; rhag i Israel ymogoneddu i'm herbyn, gan ddywedyd, Fy llaw fy hun a'm gwaredodd.
3 Am hynny, yn awr, cyhoedda lle y clywo y bobl, gan ddywedyd, Yr hwn sydd ofnus ac arswydus, dychweled ac ymadawed y bore o fynydd Gilead. A dychwelodd o'r bobl ddwy fil ar hugain, a deng mil a arosasant.
4 A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Eto y mae gormod o bobl. Dwg hwynt i waered at y dyfroedd, a mi a'u profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt, Hwn a â gyda thi, eled hwnnw gyda thi; ac am bwy bynnag y dywedwyf wrthyt, Hwn nid â gyda thi, nac eled hwnnw gyda thi.
5 Felly efe a ddygodd y bobl i waered at y dyfroedd. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Pob un a lepio â'i dafod o'r dwfr fel y llepio ci, gosod ef o'r neilltu; a phob un a ymgrymo ar ei liniau i yfed.