11 A chei glywed beth a ddywedant; fel yr ymnertho wedi hynny dy ddwylo, ac yr elych i waered i'r gwersyll. Yna efe a aeth i waered, a Phura ei lanc, i gwr y rhai arfogion oedd yn y gwersyll.
12 A'r Midianiaid, a'r Amaleciaid, a holl feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra; a'u camelod oedd heb rif, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra.
13 A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn mynegi i'w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a'i trawodd fel y syrthiodd, a hi a'i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell.
14 A'i gyfaill a atebodd ac a ddywedodd, Nid yw hyn ddim ond cleddyf Gedeon mab Joas, gŵr o Israel: Duw a roddodd Midian a'i holl fyddin yn ei law ef.
15 A phan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd, a'i ddirnad, efe a addolodd, ac a ddychwelodd i wersyll Israel; ac a ddywedodd, Cyfodwch: canys rhoddodd yr Arglwydd fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi.
16 Ac efe a rannodd y tri channwr yn dair byddin, ac a roddodd utgyrn yn llaw pawb ohonynt, a phiserau gwag, a lampau yng nghanol y piserau.
17 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un ffunud: ac wele, pan ddelwyf i gwr y gwersyll, yna fel y gwnelwyf fi, gwnewch chwithau.