24 A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Effraim, gan ddywedyd, Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid, ac achubwch o'u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth‐bara a'r Iorddonen: a holl wŷr Effraim a ymgasglasant, ac a enillasant y dyfroedd hyd Beth‐bara a'r Iorddonen.