3 Am hynny, yn awr, cyhoedda lle y clywo y bobl, gan ddywedyd, Yr hwn sydd ofnus ac arswydus, dychweled ac ymadawed y bore o fynydd Gilead. A dychwelodd o'r bobl ddwy fil ar hugain, a deng mil a arosasant.
4 A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Eto y mae gormod o bobl. Dwg hwynt i waered at y dyfroedd, a mi a'u profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt, Hwn a â gyda thi, eled hwnnw gyda thi; ac am bwy bynnag y dywedwyf wrthyt, Hwn nid â gyda thi, nac eled hwnnw gyda thi.
5 Felly efe a ddygodd y bobl i waered at y dyfroedd. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Pob un a lepio â'i dafod o'r dwfr fel y llepio ci, gosod ef o'r neilltu; a phob un a ymgrymo ar ei liniau i yfed.
6 A rhifedi y rhai a godasant y dwfr â'u llaw at eu genau, oedd dri channwr: a'r holl bobl eraill a ymgrymasant ar eu gliniau i yfed dwfr.
7 A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Trwy'r tri channwr a lepiasant y dwfr, y gwaredaf chwi, ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di: ac eled yr holl bobl eraill bob un i'w fangre ei hun.
8 Felly y bobl a gymerasant fwyd yn eu dwylo, a'u hutgyrn; a Gedeon a ollyngodd ymaith holl wŷr Israel, pob un i'w babell, a'r tri channwr a ataliodd efe: a gwersyll y Midianiaid oedd oddi tanodd iddo yn y dyffryn.
9 A'r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Cyfod, dos i waered i'r gwersyll; canys mi a'i rhoddais yn dy law di.