7 A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Trwy'r tri channwr a lepiasant y dwfr, y gwaredaf chwi, ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di: ac eled yr holl bobl eraill bob un i'w fangre ei hun.
8 Felly y bobl a gymerasant fwyd yn eu dwylo, a'u hutgyrn; a Gedeon a ollyngodd ymaith holl wŷr Israel, pob un i'w babell, a'r tri channwr a ataliodd efe: a gwersyll y Midianiaid oedd oddi tanodd iddo yn y dyffryn.
9 A'r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Cyfod, dos i waered i'r gwersyll; canys mi a'i rhoddais yn dy law di.
10 Ac od wyt yn ofni myned i waered, dos di a Phura dy lanc i waered i'r gwersyll:
11 A chei glywed beth a ddywedant; fel yr ymnertho wedi hynny dy ddwylo, ac yr elych i waered i'r gwersyll. Yna efe a aeth i waered, a Phura ei lanc, i gwr y rhai arfogion oedd yn y gwersyll.
12 A'r Midianiaid, a'r Amaleciaid, a holl feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra; a'u camelod oedd heb rif, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra.
13 A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn mynegi i'w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a'i trawodd fel y syrthiodd, a hi a'i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell.