1 A gwŷr Effraim a ddywedasant wrtho ef, Paham y gwnaethost y peth hyn â ni, heb alw arnom ni pan aethost i ymladd yn erbyn y Midianiaid? A hwy a'i dwrdiasant ef yn dost.
2 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Beth a wneuthum i yn awr wrth a wnaethoch chwi? Onid gwell yw lloffiad grawnwin Effraim, na chasgliad grawnwin Abieser?
3 Duw a roddodd yn eich llaw chwi dywysogion Midian, Oreb a Seeb: a pheth a allwn i ei wneuthur wrth a wnaethoch chwi? Yna yr arafodd eu dig hwynt tuag ato ef, pan lefarodd efe y gair hwn.
4 A daeth Gedeon i'r Iorddonen; ac a aeth drosti hi, efe a'r tri channwr oedd gydag ef, yn ddiffygiol, ac eto yn eu herlid hwy.
5 Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth, Rhoddwch, atolwg, dorthau o fara i'r bobl sydd i'm canlyn i: canys lluddedig ydynt hwy; a minnau yn erlid ar ôl Seba a Salmunna, brenhinoedd Midian.
6 A dywedodd tywysogion Succoth, A yw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem ni fara i'th lu di?