20 Ac efe a ddywedodd wrth Jether ei gyntaf‐anedig, Cyfod, lladd hwynt. Ond ni thynnai y llanc ei gleddyf: oherwydd efe a ofnodd, canys bachgen oedd efe eto.
21 Yna y dywedodd Seba a Salmunna, Cyfod di, a rhuthra i ni: canys fel y byddo y gŵr, felly y bydd ei rym. A Gedeon a gyfododd, ac a laddodd Seba a Salmunna, ac a gymerth y colerau oedd am yddfau eu camelod hwynt.
22 A gwŷr Israel a ddywedasant wrth Gedeon, Arglwyddiaetha arnom ni, tydi, a'th fab, a mab dy fab hefyd: canys gwaredaist ni o law Midian.
23 A Gedeon a ddywedodd wrthynt, Ni arglwyddiaethaf fi arnoch, ac ni arglwyddiaetha fy mab arnoch, eithr yr Arglwydd a arglwyddiaetha arnoch.
24 Dywedodd Gedeon hefyd wrthynt, Gofynnaf ddymuniad gennych, ar roddi o bob un ohonoch i mi glustlysau ei ysglyfaeth: canys clustlysau aur oedd ganddynt hwy, oherwydd mai Ismaeliaid oeddynt hwy.
25 A dywedasant, Gan roddi y rhoddwn hwynt. A lledasant ryw wisg, a thaflasant yno bob un glustlws ei ysglyfaeth.
26 A phwys y clustlysau aur a ofynasai efe, oedd fil a saith gant o siclau aur; heblaw y colerau, a'r arogl‐bellennau, a'r gwisgoedd porffor, y rhai oedd am frenhinoedd Midian; ac heblaw y tyrch oedd am yddfau eu camelod hwynt.