27 A Gedeon a wnaeth ohonynt effod, ac a'i gosododd yn ei ddinas ei hun, Offra: a holl Israel a buteiniasant ar ei hôl hi yno: a bu hynny yn dramgwydd i Gedeon, ac i'w dŷ.
28 Felly y darostyngwyd Midian o flaen meibion Israel, fel na chwanegasant godi eu pennau. A'r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd yn nyddiau Gedeon.
29 A Jerwbbaal mab Joas a aeth, ac a drigodd yn ei dŷ ei hun.
30 Ac i Gedeon yr oedd deng mab a thrigain, a ddaethai o'i gorff ef: canys gwragedd lawer oedd iddo ef.
31 A'i ordderchwraig ef, yr hon oedd yn Sichem, a ymddûg hefyd iddo fab: ac efe a osododd ei enw ef yn Abimelech.
32 Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran teg, ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad, yn Offra yr Abiesriaid.
33 A phan fu farw Gedeon, yna meibion Israel a ddychwelasant, ac a buteiniasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal‐berith yn dduw iddynt.