32 Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran teg, ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad, yn Offra yr Abiesriaid.
33 A phan fu farw Gedeon, yna meibion Israel a ddychwelasant, ac a buteiniasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal‐berith yn dduw iddynt.
34 Felly meibion Israel ni chofiasant yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a'u gwaredasai hwynt o law eu holl elynion o amgylch;
35 Ac ni wnaethant garedigrwydd â thŷ Jerwbbaal, sef Gedeon, yn ôl yr holl ddaioni a wnaethai efe i Israel.