1 Ac Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddanodd â hwynt, ac â holl dylwyth tŷ tad ei fam, gan ddywedyd,
2 Dywedwch, atolwg, lle y clywo holl wŷr Sichem, Pa un orau i chwi, ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain, sef holl feibion Jerwbbaal, ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a'ch cnawd chwi ydwyf fi.
3 A brodyr ei fam a ddywedasant amdano ef, lle y clybu holl wŷr Sichem, yr holl eiriau hyn: a'u calonnau hwynt a drodd ar ôl Abimelech; canys dywedasant, Ein brawd ni yw efe.
4 A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dŷ Baal‐berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal, y rhai a aethant ar ei ôl ef.
5 Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i Offra, ac a laddodd ei frodyr, meibion Jerwbbaal, y rhai oedd ddengwr a thrigain, ar un garreg: ond Jotham, mab ieuangaf Jerwbbaal, a adawyd; canys efe a ymguddiasai.
6 A holl wŷr Sichem a holl dŷ Milo a ymgasglasant, ac a aethant, ac a urddasant Abimelech yn frenin, wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem.
7 A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau.