20 Ac onid e, eled tân allan o Abimelech, ac ysed wŷr Sichem, a thŷ Milo; hefyd eled tân allan o wŷr Sichem, ac o dŷ Milo, ac ysed Abimelech.
21 A Jotham a giliodd, ac a ffodd, ac a aeth ymaith i Beer, ac a drigodd yno, rhag ofn Abimelech ei frawd.
22 Ac Abimelech a deyrnasodd ar Israel dair blynedd.
23 A Duw a ddanfonodd ysbryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem; a gwŷr Sichem a aethant yn anghywir i Abimelech:
24 Fel y delai y traha a wnaethid â deng mab a thrigain Jerwbbaal, ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd, yr hwn a'u lladdodd hwynt ac ar wŷr Sichem, y rhai a'i cynorthwyasant ef i ladd ei frodyr.
25 A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gynllwynwyr ar ben y mynyddoedd; a hwy a ysbeiliasant bawb a'r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd. A mynegwyd hynny i Abimelech.
26 A Gaal mab Ebed a ddaeth, efe a'i frodyr, ac a aethant drosodd i Sichem: a gwŷr Sichem a roesant eu hyder arno.