28 A Gaal mab Ebed a ddywedodd, Pwy yw Abimelech, a phwy yw Sichem, fel y gwasanaethem ef? onid mab Jerwbbaal yw efe? onid Sebul yw ei swyddog? gwasanaethwch wŷr Hemor tad Sichem: canys paham y gwasanaethem ni ef?
29 O na byddai y bobl hyn dan fy llaw i, fel y bwriwn ymaith Abimelech! Ac efe a ddywedodd wrth Abimelech, Amlha dy lu, a thyred allan.
30 A phan glybu Sebul, llywodraethwr y ddinas, eiriau Gaal mab Ebed, y llidiodd ei ddicllonedd ef.
31 Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele Gaal mab Ebed a'i frodyr wedi dyfod i Sichem; ac wele hwynt yn cadarnhau y ddinas i'th erbyn.
32 Gan hynny cyfod yn awr liw nos, ti a'r bobl sydd gyda thi, a chynllwyn yn y maes:
33 A chyfod yn fore ar godiad yr haul, a rhuthra yn erbyn y ddinas: ac wele, pan ddelo efe a'r bobl sydd gydag ef allan i'th erbyn, yna gwna iddo yr hyn a ellych.
34 Ac Abimelech a gyfododd, a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, liw nos, ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn bedair byddin.