33 A chyfod yn fore ar godiad yr haul, a rhuthra yn erbyn y ddinas: ac wele, pan ddelo efe a'r bobl sydd gydag ef allan i'th erbyn, yna gwna iddo yr hyn a ellych.
34 Ac Abimelech a gyfododd, a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, liw nos, ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn bedair byddin.
35 A Gaal mab Ebed a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws porth y ddinas: ac Abimelech a gyfododd, a'r bobl y rhai oedd gydag ef, o'r cynllwyn.
36 A phan welodd Gaal y bobl, efe a ddywedodd wrth Sebul, Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd. A dywedodd Sebul wrtho, Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion.
37 A Gaal a chwanegodd eto lefaru, ac a ddywedodd, Wele bobl yn dyfod i waered o ganol y tir, a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenim.
38 Yna y dywedodd Sebul wrtho ef, Pa le yn awr y mae dy enau di, â'r hwn y dywedaist, Pwy yw Abimelech, pan wasanaethem ef? onid dyma'r bobl a ddirmygaist ti? dos allan, atolwg, yn awr, ac ymladd i'w herbyn.
39 A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem, ac a ymladdodd ag Abimelech.