40 Ac Abimelech a'i herlidiodd ef, ac efe a ffodd o'i flaen ef; a llawer a gwympasant yn archolledig hyd ddrws y porth.
41 Ac Abimelech a drigodd yn Aruma: a Sebul a yrrodd ymaith Gaal a'i frodyr o breswylio yn Sichem.
42 A thrannoeth y daeth y bobl allan i'r maes: a mynegwyd hynny i Abimelech.
43 Ac efe a gymerth y bobl, ac a'u rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dyfod allan o'r ddinas; ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a'u trawodd hwynt.
44 Ac Abimelech, a'r fyddin oedd gydag ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a'r ddwy fyddin eraill a ruthrasant ar yr holl rai oedd yn y maes, ac a'u trawsant hwy.
45 Ac Abimelech a ymladdodd yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw: ac efe a enillodd y ddinas, ac a laddodd y bobl oedd ynddi, ac a ddistrywiodd y ddinas, ac a'i heuodd â halen.
46 A phan glybu holl wŷr tŵr Sichem hynny, hwy a aethant i amddiffynfa tŷ duw Berith.