42 A thrannoeth y daeth y bobl allan i'r maes: a mynegwyd hynny i Abimelech.
43 Ac efe a gymerth y bobl, ac a'u rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dyfod allan o'r ddinas; ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a'u trawodd hwynt.
44 Ac Abimelech, a'r fyddin oedd gydag ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a'r ddwy fyddin eraill a ruthrasant ar yr holl rai oedd yn y maes, ac a'u trawsant hwy.
45 Ac Abimelech a ymladdodd yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw: ac efe a enillodd y ddinas, ac a laddodd y bobl oedd ynddi, ac a ddistrywiodd y ddinas, ac a'i heuodd â halen.
46 A phan glybu holl wŷr tŵr Sichem hynny, hwy a aethant i amddiffynfa tŷ duw Berith.
47 A mynegwyd i Abimelech, ymgasglu o holl wŷr tŵr Sichem.
48 Ac Abimelech a aeth i fyny i fynydd Salmon, efe a'r holl bobl oedd gydag ef: ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o'r coed, ac a'i cymerth hi, ac a'i gosododd ar ei ysgwydd; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau.