47 A mynegwyd i Abimelech, ymgasglu o holl wŷr tŵr Sichem.
48 Ac Abimelech a aeth i fyny i fynydd Salmon, efe a'r holl bobl oedd gydag ef: ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o'r coed, ac a'i cymerth hi, ac a'i gosododd ar ei ysgwydd; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau.
49 A'r holl bobl a dorasant bob un ei gangen, ac a aethant ar ôl Abimelech; ac a'u gosodasant wrth yr amddiffynfa, ac a losgasant â hwynt yr amddiffynfa â thân: felly holl wŷr tŵr Sichem a fuant feirw, ynghylch mil o wŷr a gwragedd.
50 Yna Abimelech a aeth i Thebes; ac a wersyllodd yn erbyn Thebes, ac a'i henillodd hi.
51 Ac yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y ddinas; a'r holl wŷr a'r gwragedd, a'r holl rai o'r ddinas, a ffoesant yno, ac a gaea ant arnynt, ac a ddringasant ar nen y tŵr.
52 Ac Abimelech a ddaeth at y tŵr, ac a ymladdodd yn ei erbyn; ac a nesaodd at ddrws y tŵr, i'w losgi ef â thân.
53 A rhyw wraig a daflodd ddarn o faen melin ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei benglog ef.