53 A rhyw wraig a daflodd ddarn o faen melin ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei benglog ef.
54 Yna efe a alwodd yn fuan ar y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, Tyn dy gleddyf, a lladd fi; fel na ddywedant amdanaf, Gwraig a'i lladdodd ef. A'i lanc a'i trywanodd ef, ac efe a fu farw.
55 A phan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech, hwy a aethant bob un i'w fangre.
56 Felly y talodd Duw ddrygioni Abimelech, yr hwn a wnaethai efe i'w dad, gan ladd ei ddeg brawd a thrigain.
57 A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd Duw ar eu pen hwynt: a melltith Jotham mab Jerwbaal a ddaeth arnynt hwy.