9 Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â'm braster, â'r hwn trwof fi yr anrhydeddant Dduw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?
10 A'r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
11 Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â'm melystra, ac â'm ffrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill?
12 Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
13 A'r winwydden a ddywedodd wrthynt hwy, A ymadawaf fi â'm melyswin, yr hwn sydd yn llawenhau Duw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?
14 Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
15 A'r fiaren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr eneiniwch fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid e, eled tân allan o'r fiaren, ac ysed gedrwydd Libanus.