Esra 1 BWM

1 Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, i gyflawni gair yr Arglwydd o enau Jeremeia, y cyffrôdd yr Arglwydd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen, gan ddywedyd,

2 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda.

3 Pwy sydd ohonoch o'i holl bobl ef? bydded ei Dduw gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda, ac adeiladed dŷ Arglwydd Dduw Israel, (dyna y Duw,) yr hwn sydd yn Jerwsalem.

4 A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac â golud, ac ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm tŷ Dduw, yr hwn sydd yn Jerwsalem.

5 Yna y cododd pennau‐cenedl Jwda a Benjamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr Arglwydd yr hwn oedd yn Jerwsalem.

6 A'r rhai oll o'u hamgylch a'u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, a golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar.

7 A'r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun:

8 Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mithredath y trysorydd, ac a'u rhifodd hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda.

9 A dyma eu rhifedi hwynt; Deg ar hugain o gawgiau aur, mil o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllyll,

10 Deg ar hugain o orflychau aur, deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, a mil o lestri eraill.

11 Yr holl lestri, yn aur ac yn arian, oedd bum mil a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda'r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10