Esra 6 BWM

1 Yna y brenin Dareius a osododd orchymyn; a chwiliwyd yn nhŷ y llyfrau, lle y cedwid y trysorau yn Babilon.

2 A chafwyd yn Achmetha, yn y llys yn nhalaith Media, ryw lyfr, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo yn goffadwriaeth:

3 Yn y flwyddyn gyntaf i'r brenin Cyrus y gosododd y brenin Cyrus orchymyn am dŷ Dduw o fewn Jerwsalem, Adeilader y tŷ, y fan lle yr aberthent aberthau, a gwnaer yn gadarn ei sylfeini; yn drigain cufydd ei uchder, ac yn drigain cufydd ei led:

4 Yn dair rhes o feini mawr, a rhes o goed newydd: a rhodder y draul o dŷ y brenin.

5 A llestri tŷ Dduw hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddug Nebuchodonosor o'r deml yn Jerwsalem, ac a ddug efe adref i Babilon, rhodder hwynt i'w dwyn i'r deml yn Jerwsalem, i'w lle, a gosoder hwynt yn nhŷ Dduw.

6 Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i'r afon, Setharbosnai, a'ch cyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai ydych o'r tu hwnt i'r afon, ciliwch oddi yno.

7 Gadewch yn llonydd waith y tŷ Dduw hwn: adeiladed tywysogion a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i Dduw yn ei le.

8 Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn wrth adeiladu y tŷ Dduw hwn; mai o gyfoeth y brenin, sef o'r deyrnged o'r tu hwnt i'r afon, y rhoddir traul i'r gwŷr hyn, fel na pheidio y gwaith.

9 A'r hyn a fyddo angenrheidiol i boethoffrymau Duw y nefoedd, yn eidionau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn ŷd, yn halen, yn win, ac yn olew, yn ôl yr hyn a ddywedo yr offeiriaid sydd yn Jerwsalem, rhodder iddynt bob dydd yn ddi‐baid:

10 Fel yr offrymont aroglau peraidd i Dduw y nefoedd, ac y gweddïont dros einioes y brenin, a'i feibion.

11 Gosodais hefyd orchymyn, pa ddyn bynnag a newidio y gair hwn, tynner coed o'i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnw croger ef; a bydded ei dŷ ef yn domen am hynny.

12 A'r Duw, yr hwn a wnaeth i'w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo Duw yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.

13 Yna Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, Setharbosnai, a'u cyfeillion, megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd.

14 A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn Duw Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia.

15 A'r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius.

16 A meibion Israel, yr offeiriaid a'r Lefiaid, a'r rhan arall o feibion y gaethglud, a gysegrasant y tŷ hwn eiddo Duw mewn llawenydd;

17 Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn bech‐aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.

18 Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau, a'r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth Duw yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr Moses.

19 Meibion y gaethglud hefyd a gadwasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf.

20 Canys yr offeiriaid a'r Lefiaid a ymlanhasant yn gytûn, yn lân i gyd oll, ac a aberthasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain.

21 A meibion Israel, y rhai a ddychwelasent o'r gaethglud, a phob un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy, i geisio Arglwydd Dduw Israel, a fwytasant,

22 Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd: canys yr Arglwydd a'u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy, i'w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ Dduw, Duw Israel.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10