16 A meibion y gaethglud a wnaethant felly. Ac Esra yr offeiriad, a'r gwŷr oedd bennau‐cenedl tŷ eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau, a neilltuwyd, ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o'r degfed mis, i ymofyn am y peth hyn.
17 A hwy a wnaethant ben â'r holl wŷr a gytaliasent â gwragedd dieithr, erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.
18 A chafwyd o feibion yr offeiriaid, y rhai a gytaliasent â gwragedd dieithr: o feibion Jesua mab Josadac, a'i frodyr; Maaseia, ac Elieser, a Jarib, a Gedaleia.
19 A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd; a chan iddynt bechu, a offrymasant hwrdd o'r praidd dros eu camwedd.
20 Ac o feibion Immer; Hanani, a Sebadeia.
21 Ac o feibion Harim; Maaseia, ac Eleia, a Semaia, a Jehiel, ac Usseia.
22 Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethaneel, Josabad, ac Elasa.