54 Meibion Neseia, meibion Hatiffa.
55 Meibion gweision Solomon: meibion Sotai meibion Soffereth, meibion Peruda,
56 Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel,
57 Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Ami.
58 Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant deuddeg a phedwar ugain.
59 A'r rhai hyn a aethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐harsa, Cerub, Adan, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na'u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt:
60 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain.