60 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain.
61 A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt.
62 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.
63 A'r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o'r pethau sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â Thummim.
64 Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain:
65 Heblaw eu gweision a'u morynion; y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion ac yn gantoresau.
66 Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain; eu mulod yn ddau cant ac yn bump a deugain;