65 Heblaw eu gweision a'u morynion; y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion ac yn gantoresau.
66 Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain; eu mulod yn ddau cant ac yn bump a deugain;
67 Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain; eu hasynnod yn chwe mil saith gant ac ugain.
68 Ac o'r pennau‐cenedl pan ddaethant i dŷ yr Arglwydd, yr hwn oedd yn Jerwsalem, rhai a offrymasant o'u gwaith eu hun tuag at dŷ yr Arglwydd, i'w gyfodi yn ei le.
69 Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid.
70 Yna yr offeiriaid a'r Lefiaid, a rhai o'r bobl, a'r cantorion, a'r porthorion, a'r Nethiniaid, a drigasant yn eu dinasoedd; a holl Israel yn eu dinasoedd.