1 Yna gwrthwynebwyr Jwda a Benjamin a glywsant fod meibion y gaethglud yn adeiladu y deml i Arglwydd Dduw Israel;
2 Ac a ddaethant at Sorobabel, ac at y pennau‐cenedl, ac a ddywedasant wrthynt, Adeiladwn gyda chwi: canys fel chwithau y ceisiwn eich Duw chwi; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu, er dyddiau Esarhadon brenin Assyria, yr hwn a'n dug ni i fyny yma.
3 Eithr dywedodd Sorobabel a Jesua, a'r rhan arall o bennau‐cenedl Israel, wrthynt, Nid yw i chwi ac i ninnau adeiladu tŷ i'n Duw ni; eithr nyni a gyd-adeiladwn i Arglwydd Dduw Israel, megis y'n gorchmynnodd y brenin Cyrus, brenin Persia.
4 A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda, ac yn eu rhwystro hwy i adeiladu,