16 Yr ydym yn hysbysu i'r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a'r muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o'r tu yma i'r afon.
17 Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a'r rhan arall o'u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria, ac at y lleill o'r tu hwnt i'r afon, Tangnefedd, a'r amser a'r amser.
18 Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron.
19 A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd‐dod a gwrthryfel.
20 A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o'r tu hwnt i'r afon; ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth.
21 Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i'r gwŷr hynny beidio, ac nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto.
22 A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd?