21 Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i'r gwŷr hynny beidio, ac nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto.
22 A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd?
23 Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a'u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder.
24 Yna y peidiodd gwaith tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem; ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.