4 A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda, ac yn eu rhwystro hwy i adeiladu,
5 Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt, i ddiddymu eu cyngor hwynt, holl ddyddiau Cyrus brenin Persia, a hyd deyrnasiad Dareius brenin Persia.
6 Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef, yr ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem.
7 Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel, a'r rhan arall o'u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg.
8 Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifenasant lythyr yn erbyn Jerwsalem at Artacsercses y brenin, fel hyn:
9 Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a'r rhan arall o'u cyfeillion, y Dinaiaid, yr Affarsathchiaid, y Tarpeliaid, yr Affarsiaid, yr Archefiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafiaid, yr Elamiaid,
10 A'r rhan arall o'r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog, ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a'r rhan arall tu yma i'r afon, a'r amser a'r amser.