10 Gofynasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr hysbysem i ti, ac fel yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt.
11 A'r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym weision Duw nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a'i hadeiladodd, ac a'i seiliodd ef.
12 Eithr wedi i'n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a'u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a'r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon.
13 Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ Dduw hwn.
14 A llestri tŷ Dduw hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o'r deml yn Jerwsalem, ac a'u dygasai i deml Babilon, y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog;
15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer y llestri hyn, dos, dwg hwynt i'r deml yn Jerwsalem, ac adeilader tŷ Dduw yn ei le.
16 Yna y daeth y Sesbassar hwnnw, ac a osododd sylfeini tŷ Dduw yn Jerwsalem. Ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac nis gorffennwyd ef.