6 Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, a Setharbosnai, a'i gyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai oedd o'r tu yma i'r afon, at y brenin Dareius:
7 Anfonasant lythyr ato ef, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo; Pob heddwch i'r brenin Dareius.
8 Bydded hysbys i'r brenin, fyned ohonom ni i dalaith Jwdea, i dŷ y Duw mawr, a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr, a bod yn gosod coed yn ei barwydydd ef; a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a'i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt.
9 Yna y gofynasom i'r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel hyn; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mur yma?
10 Gofynasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr hysbysem i ti, ac fel yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt.
11 A'r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym weision Duw nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a'i hadeiladodd, ac a'i seiliodd ef.
12 Eithr wedi i'n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a'u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a'r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon.