12 A'r Duw, yr hwn a wnaeth i'w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo Duw yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.
13 Yna Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, Setharbosnai, a'u cyfeillion, megis yr anfonodd y brenin Dareius, felly y gwnaethant yn ebrwydd.
14 A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn Duw Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia.
15 A'r tŷ hwn a orffennwyd y trydydd dydd o fis Adar, pan oedd y chweched flwyddyn o deyrnasiad y brenin Dareius.
16 A meibion Israel, yr offeiriaid a'r Lefiaid, a'r rhan arall o feibion y gaethglud, a gysegrasant y tŷ hwn eiddo Duw mewn llawenydd;
17 Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn bech‐aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.
18 Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau, a'r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth Duw yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr Moses.