1 A dyma eu pennau‐cenedl hwynt, a'u hachau, y rhai a aeth i fyny gyda mi, yn nheyrnasiad Artacsercses y brenin, allan o Babilon.
2 O feibion Phinees; Gersom: o feibion Ithamar; Daniel: o feibion Dafydd; Hattus:
3 O feibion Sechaneia, o feibion Pharos; Sechareia: a chydag ef y rhifwyd wrth eu hachau gant a deg a deugain o wrywiaid.
4 O feibion Pahath‐Moab; Elihoenai mab Seraheia, a chydag ef ddau cant o wrywiaid.
5 O feibion Sechaneia; mab Jahasiel, a chydag ef dri chant o wrywiaid.
6 O feibion Adin hefyd; Ebed mab Jonathan, a chydag ef ddeg a deugain o wrywiaid.
7 Ac o feibion Elam; Jesaia mab Athaleia, a chydag ef ddeg a thrigain o wrywiaid.