11 Ac o feibion Bebai; Sechareia mab Bebai, a chydag ef wyth ar hugain o wrywiaid.
12 Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab a chant.
13 Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt, Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid.
14 Ac o feibion Bigfai; Uthai, a Sabbud, a chyda hwynt ddeg a thrigain o wrywiaid.
15 A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a'r offeiriaid, ond ni chefais yno neb o feibion Lefi.
16 Yna yr anfonais am Elieser, am Ariel, am Semaia, ac am Elnathan, ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Sechareia, ac am Mesulam, y penaethiaid; ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion:
17 A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i'w traethu wrth Ido, a'i frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw.