19 A Hasabeia, a chydag ef Jesaia o feibion Merari, a'i frodyr, a'u meibion, ugain;
20 Ac o'r Nethiniaid, a roddasai Dafydd a'r tywysogion yng ngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac ugain o Nethiniaid: hwynt oll a hysbysasid erbyn eu henwau.
21 Ac yno, wrth afon Ahafa, y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio gerbron ein Duw ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i'n plant, ac i'n golud oll.
22 Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch, i'n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a'i ceisiant ef, a'i gryfder a'i ddicter yn erbyn pawb a'i gadawant ef.
23 Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â'n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd arnom.
24 Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia, Hasabeia, a deg o'u brodyr gyda hwynt;
25 Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a'r aur, a'r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a'i gynghoriaid, a'i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno.