7 Ac o feibion Elam; Jesaia mab Athaleia, a chydag ef ddeg a thrigain o wrywiaid.
8 Ac o feibion Seffatia; Sebadeia mab Michael, a chydag ef bedwar ugain o wrywiaid.
9 O feibion Joab; Obadeia mab Jehiel, a chydag ef ddau cant a deunaw o wrywiaid.
10 Ac o feibion Selomith; mab Josiffia, a chydag ef wyth ugain o wrywiaid.
11 Ac o feibion Bebai; Sechareia mab Bebai, a chydag ef wyth ar hugain o wrywiaid.
12 Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab a chant.
13 Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt, Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid.