1 Ac wedi darfod hynny, y tywysogion a ddaethant ataf fi, gan ddywedyd, Nid ymneilltuodd pobl Israel, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, oddi wrth bobl y gwledydd: gwnaethant yn ôl eu ffieidd‐dra hwynt; sef y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Pheresiaid, y Jebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid, a'r Amoriaid.
2 Canys cymerasant o'u merched iddynt eu hun, ac i'w meibion; a'r had sanctaidd a ymgymysgodd â phobl y gwledydd: a llaw y penaethiaid a'r tywysogion fu gyntaf yn y camwedd hyn.
3 Pan glywais innau hyn, mi a rwygais fy nillad a'm gwisg, ac a dynnais wallt fy mhen a'm barf, ac a eisteddais yn syn.
4 Yna yr ymgasglodd ataf fi bob un a'r a ofnodd eiriau Duw Israel, am gamwedd y rhai a gaethgludasid; a myfi a eisteddais yn syn hyd yr aberth prynhawnol.
5 Ac ar yr aberth prynhawnol mi a gyfodais o'm cystudd; ac wedi i mi rwygo fy nillad a'm gwisg, mi a ostyngais ar fy ngliniau, ac a ledais fy nwylo at yr Arglwydd fy Nuw,
6 Ac a ddywedais, O fy Nuw, y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi fy wyneb atat ti, fy Nuw; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros ben, a'n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd.
7 Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn; ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a'n hoffeiriaid, i law brenhinoedd y gwledydd, i'r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd wyneb, megis heddiw.