Galatiaid 1 BWM

1 Paul, apostol, (nid o ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist, a Duw Dad, yr hwn a'i cyfododd ef o feirw;)

2 A'r brodyr oll y rhai sydd gyda mi, at eglwysi Galatia:

3 Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad, a'n Harglwydd Iesu Grist;

4 Yr hwn a'i rhoddes ei hun dros ein pechodau, fel y'n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg presennol, yn ôl ewyllys Duw a'n Tad ni:

5 I'r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

6 Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a'ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall:

7 Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych datroi efengyl Crist.

8 Eithr pe byddai i ni, neu i angel o'r nef, efengylu i chwi amgen na'r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema.

9 Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen na'r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema.

10 Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf, ynteu Duw? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion eto, ni byddwn was i Grist.

11 Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yw hi ddynol.

12 Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist.

13 Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi allan o fesur erlid eglwys Dduw, a'i hanrheithio hi;

14 Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o'm cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau.

15 Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm neilltuodd i o groth fy mam, ac a'm galwodd i trwy ei ras,

16 I ddatguddio ei Fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed:

17 Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o'm blaen i yn apostolion; ond mi a euthum i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus.

18 Yna ar ôl tair blynedd y deuthum yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod.

19 Eithr neb arall o'r apostolion nis gwelais, ond Iago brawd yr Arglwydd.

20 A'r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, wele, gerbron Duw, nad wyf yn dywedyd celwydd.

21 Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia;

22 Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist:

23 Ond yn unig hwy a glywsent, fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu'r ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai.

24 A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.

Penodau

1 2 3 4 5 6