Galatiaid 4 BWM

1 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae'r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl;

2 Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad.

3 Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd:

4 Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf;

5 Fel y prynai'r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.

6 Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad.

7 Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.

8 Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau.

9 Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu?

10 Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.

11 Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer.

12 Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: ni wnaethoch i mi ddim cam.

13 A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf.

14 A'm profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a'm derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu.

15 Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasech eich llygaid, ac a'u rhoesech i mi.

16 A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir?

17 Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy.

18 Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi.

19 Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch;

20 Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch.

21 Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y ddeddf?

22 Canys y mae'n ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab; un o'r wasanaethferch, ac un o'r wraig rydd.

23 Eithr yr hwn oedd o'r wasanaethferch, a aned yn ôl y cnawd; a'r hwn oedd o'r wraig rydd, trwy'r addewid.

24 Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: canys y rhai hyn yw'r ddau destament; un yn ddiau o fynydd Seina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar:

25 Canys yr Agar yma yw mynydd Seina yn Arabia, ac y mae yn cyfateb i'r Jerwsalem sydd yn awr; ac y mae yn gaeth, hi a'i phlant.

26 Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll.

27 Canys ysgrifenedig yw, Llawenha, di'r amhlantadwy, yr hon nid wyt yn epilio; tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor: canys i'r unig y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae iddi ŵr.

28 A ninnau, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym blant yr addewid.

29 Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai'r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd, felly yr awr hon hefyd.

30 Ond beth y mae'r ysgrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaethferch a'i mab: canys ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd.

31 Felly, frodyr, nid plant i'r wasanaethferch ydym, ond i'r wraig rydd.

Penodau

1 2 3 4 5 6