1 Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barnabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi.
2 Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad, ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd; ond o'r neilltu i'r rhai cyfrifol, rhag mewn un modd fy mod yn rhedeg yn ofer, neu ddarfod i mi redeg.
3 Eithr Titus, yr hwn oedd gyda mi, er ei fod yn Roegwr, ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno:
4 A hynny oherwydd y gau frodyr a ddygasid i mewn, y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y'n caethiwent ni:
5 I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, naddo dros awr; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi.
6 A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn;) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi:
7 Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megis am efengyl yr enwaediad i Pedr:
8 (Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:)
9 A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau‐ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.
10 Yn unig ar fod i ni gofio'r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i'w wneuthur.
11 A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a'i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i'w feio.
12 Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, efe a fwytaodd gyda'r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a'i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni'r rhai oedd o'r enwaediad.
13 A'r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i'w rhagrith hwy.
14 Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?
15 Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o'r Cenhedloedd yn bechaduriaid,
16 Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y'n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf.
17 Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y'n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? Na ato Duw.
18 Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr.
19 Canys yr wyf fi trwy'r ddeddf wedi marw i'r ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw.
20 Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a'r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a'm carodd, ac a'i dodes ei hun drosof fi.
21 Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os o'r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.