23 Eithr cyn dyfod ffydd, y'n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd‐gau i'r ffydd, yr hon oedd i'w datguddio.
24 Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd.
25 Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro.
26 Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu.
27 Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist.
28 Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.
29 Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.