5 Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae?
6 Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
7 Gwybyddwch felly mai'r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham.
8 A'r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abraham, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.
9 Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon.
10 Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i'w gwneuthur hwynt.
11 Ac na chyfiawnheir neb trwy'r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.