9 Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon.
10 Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i'w gwneuthur hwynt.
11 Ac na chyfiawnheir neb trwy'r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.
12 A'r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna'r pethau hynny, a fydd byw ynddynt.
13 Crist a'n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren:
14 Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd.
15 Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; Cyd na byddo ond amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato.