13 Canys i ryddid y'ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i'r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd.
14 Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun.
15 Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd.
16 Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd.
17 Canys y mae'r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a'r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a'r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch.
18 Ond os gan yr Ysbryd y'ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf.
19 Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd,