3 Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a'r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf.
4 Chwi a aethoch yn ddi‐fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras.
5 Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder.
6 Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad.
7 Chwi a redasoch yn dda; pwy a'ch rhwystrodd chwi, fel nad ufuddhaech i'r gwirionedd?
8 Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi.
9 Y mae ychydig lefain yn lefeinio'r holl does.